Y Pwyllgor Deisebau |
Lleoliad: |
Ystafell Bwyllgora 1 - y Senedd |
|
|
||
|
|
||||
Dyddiad: |
Dydd Mawrth, 19 Mehefin 2012 |
|
|||
|
|
||||
Amser: |
09:00 - 10:15 |
|
|||
|
|
||||
Senedd tv:
http://www.senedd.tv/archiveplayer.jsf?v=cy_200000_19_06_2012&t=0&l=cy
|
|||||
|
|||||
|
|||||
Cofnodion Cryno: |
|||||
|
|
|
|||
Aelodau’r Cynulliad: |
|
William Powell (Cadeirydd) Russell George Bethan Jenkins Joyce Watson |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Tystion: |
|
|
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Staff y Pwyllgor: |
|
Abigail Phillips (Clerc) Sarita Marshall (Dirprwy Glerc) Helen Roberts (Cynghorydd Cyfreithiol) |
|||
|
|
||||
1. Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon
Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau.
2. P-04-334 Uned Arennol Newydd yn Ysbyty'r Tywysog Siarl - trafod ymweld ag Uned Pentwyn
Bu Bethan Jenkins yn adrodd yn ôl i’r Pwyllgor ynghylch yr ymweliad rapporteur i’r uned arennol ym Mhentwyn, Caerdydd.
Cytunodd y Pwyllgor i:
geisio gwybodaeth am y cynlluniau presennol ar gyfer uned arennol newydd ym Merthyr Tudful; ac
aros am ymateb i lythyr y Cadeirydd at Fwrdd Iechyd Lleol Cwm Taf a oedd yn ceisio’r wybodaeth ddiweddaraf am y cyfarfod arfaethedig â chleifion uned arennol Ysbyty’r Tywysog Siarl.
3. P-04-366 Cau Canolfan Ddydd Aberystwyth - trafod ymweliad
Rhoddodd William Powell y wybodaeth ddiweddaraf i’r Pwyllgor am yr ymweliad rapporteur i’r ganolfan ddydd newydd yn Aberystwyth.
Cytunodd y Pwyllgor i ystyried y mater hwn yn y cyfarfod nesaf.
4. Deisebau newydd
4.1P-04-395 Dylai Ambiwlans Awyr Cymru gael arian gan y llywodraeth
Bu’r Pwyllgor yn ystyried y ddeiseb hon am y tro cyntaf.
Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i geisio ei barn am y ddeiseb ac i ofyn am wybodaeth ynghylch a yw’r Llywodraeth yn rhoi cyllid craidd i Ambiwlans Awyr Cymru.
4.2P-04-396 Sgiliau Triniaeth Cynnal Bywyd Brys i Blant Ysgol
Bu’r Pwyllgor yn ystyried y ddeiseb hon am y tro cyntaf, a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog Addysg a Sgiliau i gydnabod ymateb y Dirprwy Weinidog i’r Ddadl Fer ynglŷn â’r mater hwn ym mis Hydref 2011 ac i geisio ei farn am y ddeiseb.
4.3P-04-397 Cyflog Byw
Bu’r Pwyllgor yn ystyried y ddeiseb hon am y tro cyntaf, a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau i: roi gwybod iddo am y ddeiseb; ceisio’r wybodaeth ddiweddaraf am waith y grŵp rhanddeiliaid a gynullwyd; ac i ofyn a fydd y Llywodraeth yn ymgynghori â Llysgenhadon Ifanc Achub y Plant fel rhan o’i gwaith ar y mater hwn.
4.4P-04-398 Ymgyrch dros gael cofrestr ar gyfer pobl sy'n cam-drin anifeiliaid yng Nghymru
Bu’r Pwyllgor yn ystyried y ddeiseb hon am y tro cyntaf, a chytunodd i:
ysgrifennu at Weinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy i geisio ei farn am y ddeiseb; ac
ysgrifennu at grwpiau lles anifeiliaid, gan gynnwys yr RSPCA, i geisio eu barn am y ddeiseb.
4.5P-04-399 Arferion lladd anifeiliaid
Bu’r Pwyllgor yn ystyried y ddeiseb hon am y tro cyntaf, a chytunodd i ysgrifennu at Weinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy ac at y Gweinidog Cyllid ac Arweinydd y Tŷ i geisio eu barn am y ddeiseb.
4.6P-04-400 Safon ansawdd NICE ym maes iechyd meddwl
Bu’r Pwyllgor yn ystyried y ddeiseb hon am y tro cyntaf, a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i geisio ei barn am y ddeiseb.
4.7P-04-401 Y Gymraeg yn ein Cynulliad ni
Bu’r Pwyllgor yn ystyried y ddeiseb hon am y tro cyntaf, a chytunodd i’w chyfeirio i Gomisiwn y Cynulliad i roi gwybod iddo am gryfder y teimladau am y pwnc, ac yna i gau’r ddeiseb.
5. Y wybodaeth ddiweddaraf am ddeisebau blaenorol
5.1P-04-330 Cofnod Cymraeg yn ein Cynulliad ni
Bu’r Pwyllgor yn ystyried y wybodaeth ddiweddaraf am y ddeiseb hon.
O gofio bod y Pwyllgor sy’n craffu ar y Bil Ieithoedd Swyddogol wedi argymell y dylai fod Cofnod dwyieithog o holl drafodion y Cynulliad, cytunodd y Pwyllgor i gau’r ddeiseb.
5.2P-04-389 Y Celfyddydau, amaethyddiaeth a dafad y Cynulliad
Gwnaeth William Powell ddatgan buddiant gan ei fod yn bartner mewn fferm da byw/defaid.
Bu’r Pwyllgor yn ystyried gohebiaeth yn ymwneud â’r ddeiseb, a chytunodd i anfon y cyngor a amlinellwyd gan y Llywydd at y deisebydd, ac yna i gau’r ddeiseb.
5.3P-03-197 Achub y Vulcan
Bu’r Pwyllgor yn ystyried gohebiaeth mewn perthynas â’r ddeiseb hon, a chytunodd i gau’r ddeiseb.
5.4P-03-162 Diogelwch ar y ffyrdd yn Llansbyddyd
Bu’r Pwyllgor yn ystyried gohebiaeth mewn perthynas â’r ddeiseb hon. Yn sgîl y wybodaeth a ddarparwyd, cytunodd y Pwyllgor i gau’r ddeiseb.
5.5P-04-370 Deiseb ynghylch gwella gwasanaethau seicig a greddfol yng Nghymru
Bu’r Pwyllgor yn ystyried gohebiaeth mewn perthynas â’r ddeiseb hon a chytunodd i ysgrifennu at Llais Defnyddwyr Cymru i ofyn iddo a yw wedi gwneud unrhyw waith i godi ymwybyddiaeth darparwyr a defnyddwyr gwasanaethau seicig o fesurau i ddiogelu defnyddwyr.
5.6P-03-261 Atebion lleol i dagfeydd traffig yn y Drenewydd
5.7P-04-319 Deiseb ynghylch traffig yn y Drenewydd
Bu’r Pwyllgor yn ystyried gohebiaeth mewn perthynas â’r deisebau hyn, a chytunodd i:
geisio sylwadau deisebwyr am yr adroddiad a ddarparwyd gan y Gweinidog;
gofyn i’r Gweinidog a oes unrhyw ddata a ddefnyddiwyd i lunio’r adroddiad, y cytunodd y Gweinidog yn ystod ei sesiwn tystiolaeth lafar i’w anfon at y Pwyllgor, nas anfonwyd hyd yn hyn; ac
anfon yr adroddiad at Gadeirydd grŵp Parthau Twf Lleol Powys er gwybodaeth.
5.8P-04-384 Cysylltiad â’r M48 o’r B4245 Cil-y-Coed/Rogiet
Bu’r Pwyllgor yn ystyried gohebiaeth yn ymwneud â’r pwnc hwn, a chytunodd i gau’r ddeiseb.
5.9P-04-387 Arwyddion a draeniad ar yr A467
Bu’r Pwyllgor yn ystyried gohebiaeth mewn perthynas â’r ddeiseb hon.
Gan nad yw’r ffordd dan sylw yn rhan o rwydwaith traffyrdd lleol Llywodraeth Cymru, cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at Aelodau Cynulliad etholaethol a rhanbarthol y deisebydd i ofyn iddynt a allent gynorthwyo’r deisebydd i ddwyn y mater i sylw’r awdurdod lleol.
Yna, cytunodd y Pwyllgor i gau’r ddeiseb.
5.10 P-04-388 Diogelu’r arfer o addoli ar y cyd fel gofyniad cyfreithiol
Bu’r Pwyllgor yn ystyried gohebiaeth mewn perthynas â’r mater hwn.
O ystyried y datganiad a wnaeth y Gweinidog yn ei ymateb, cytunodd y Pwyllgor i gau’r ddeiseb.
5.11 P-03-303 Yn erbyn bwlio homoffobig
Cytunodd y Pwyllgor i gau’r ddeiseb.
5.12 P-04-372 Sicrhau bod mwy o doiledau merched mewn lleoliadau adloniant
Bu’r Pwyllgor yn ystyried gohebiaeth mewn perthynas â’r ddeiseb hon.
O ystyried ymateb y Gweinidog, cytunodd y Pwyllgor i gau’r ddeiseb.
5.13 P-04-373 Parthau gwaharddedig o amgylch ysgolion ar gyfer faniau symudol sy'n gwerthu bwyd poeth
Bu’r Pwyllgor yn ystyried gohebiaeth mewn perthynas â’r ddeiseb hon, a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau i geisio ei farn am ddefnyddio rheolaethau traffyrdd neu barcio a threfniadau trwyddedu ar gyfer busnesau.
5.14 P-04-385 Deiseb ar ryddhau balŵns a lanternau
Bu’r Pwyllgor yn ystyried gohebiaeth mewn perthynas â’r ddeiseb hon.
Dywedodd Aelodau’r Pwyllgor eu bod wedi rhyddhau balŵns/lanternau yn y gorffennol, gan nad oeddent yn gwybod ar y pryd am eu heffaith niweidiol.
Cytunodd y Pwyllgor i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r deisebwyr ac i grwpiau eraill â diddordeb am y gwaith y bydd y Gweinidog yn ei wneud ar effaith rhyddhau balŵns a lanternau.
5.15 P-04-360 Deiseb man gwan Pen-y-lan
Bu’r Pwyllgor yn ystyried gohebiaeth mewn perthynas â’r ddeiseb hon, a chytunodd i ofyn am amserlen ar gyfer uwchraddio’r seilwaith band eang ym Mhen-y-lan.
6. Papurau i'w nodi
6.1P-04-329 Rheoli sŵn o dyrbinau gwynt sy’n peri diflastod
6.2P-04-368 Annog gweithgarwch corfforol ac iechyd mewn colegau addysg bellach
Nododd y Pwyllgor y papurau.
7. Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y canlynol:
7.1P-03-238 Llygredd ym Mornant Porth Tywyn - adroddiad drafft
Cytunodd y Pwyllgor ar yr adroddiad, y mae rhai newidiadau i’w gwneud iddo, a gofynnodd a fyddai modd i Aelodau Cymru o Senedd Ewrop gael copi pan fydd yn cael ei gyhoeddi.
Trawsgrifiad